Gwaharddiad – cyffredinol

Rydych wedi eich gwahardd rhag gyrru am ………… diwrnod/ wythnos/ mis/ blynedd. Mae hyn yn golygu na allwch yrru unrhyw gerbyd modur ar ffordd neu mewn lle cyhoeddus o’r funud hon tan ddiwedd eich cyfnod gwahardd. Os byddwch yn gyrru a chithau wedi’ch gwahardd, byddwch yn cyflawni trosedd difrifol ac efallai y cewch garchar a’ch gwahardd eto.

Os yw’r cyfnod gwahardd am 56 diwrnod neu fwy – Rhaid i chi wneud cais i’r DVLA am drwydded cerdynllun newydd os ydych am yrru unwaith y daw eich cyfnod gwahardd i ben. Ni ddylech yrru hyd nes y byddwch wedi derbyn eich trwydded cerdyn-llun newydd. Nid yw eich trwydded cerdyn-llun cyfredol yn ddilys bellach, ac mae’n rhaid i chi ei anfon i’r DVLA.

Os ydych chi’n droseddwr risg uchel – Rhaid i chi fodloni’r DVLA eich bod yn ffit yn feddygol i yrru. Bydd arnoch angen cwblhau, a thalu am, asesiad meddygol, gan gynnwys profion gwaed.

Os yw’r cyfnod gwahardd am 55 diwrnod neu lai. – Fe nodir y cyfnod gwahardd ar eich cofnod gyrru DVLA. Ni does angen i chi roi eich trwydded cerdyn-llun i mewn, ond ni fydd yn ddilys tan ddaw’r cyfnod gwahardd i ben.

Os rhoddir dedfryd o garchar ar unwaith i chi – Bydd cyfnod eich gwaharddiad yn cael ei ymestyn i ystyried y ddedfryd o garchar a roddwyd i chi.

Ydych chi’n deall?

[Lle bo’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchymyn ategol, iawndal a/neu waharddiad]

[Lle bo’n berthnasol, ystyriwch gwrs adsefydlu yfed a gyrru]