Iawndal
Am y trosedd o ………… rydym yn gorchymyn eich bod yn talu £………… o iawndal am yr [anaf] [difrod][colled] a achoswyd i ………… [Ail-adrodd fel bo angen.]
Ein rhesymau yw …………
Dirwy
Am y trosedd o ………… rydym yn rhoi dirwy o £………… i chi [Ail-adrodd fel bo angen.]
[Lle bo’n berthnasol.] Rydym wedi lleihau eich dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe baech heb wneud, byddai wedi bod yn …………
Ein rhesymau yw …………
Manylion talu
Mae gennych gyfanswm o £………… i’w dalu. Mae’n ddyledus nawr. Allwch ei dalu’n llawn heddiw?
Rydym yn gwneud gorchymyn casglu fel bod staff y llys yn gallu sicrhau y telir y swm a orchmynnwyd. Rhaid i chi dalu ar y diwrnod(au) pan orchmynnir chi i wneud hynny a rhaid i chi roi gwybod i’r llys am unrhyw newid i’ch amgylchiadau ariannol neu gyfeiriad. [Rhowch y rhesymau os na wneir gorchymyn casglu.]
Os na dalwch y taliadau fel y gorchmynnir, byddwch yn dod yn ôl i’r llys a gallech orfod mynd i’r carchar.
Ydych chi’n deall?
Ar gyfer diffygdalwyr presennol neu lle gorchmynnir talu iawndal [neu lle rhoddir caniatâd]
Rydym yn gwneud [gorchymyn atafaelu enillion] [gorchymyn tynnu arian o fudd-daliadau].
Os bydd y gorchymyn hwn yn methu am unrhyw reswm, rhaid i chi ei dalu ar gyfradd o £………… yr wythnos / mis gan ddechrau ar …………