Gohirio er mwyn derbyn adroddiadau cyn-dedfrydu

[Mae rhagdybiaeth o blaid adroddiad llafar ar yr un diwrnod lle bo hynny’n bosibl bob tro. Efallai y bydd angen gohirio yn achos troseddau lle mae angen asesiad llawn, e.e. gofyniad triniaeth am droseddau rhywiol / trais yn y cartref neu yn achos troseddwyr cyson iawn. Mae arferion lleol yn amrywio.]

Rydym yn rhoi eich achos yn ôl tan ………… am/pm heddiw [neu tan …………].

Rhaid i chi weld a chydweithredu â swyddog prawf fydd yn paratoi adroddiad [ysgrifenedig] [llafar] fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni amdanoch. Efallai y gofynnir cwestiynau i chi i’w helpu i ystyried a ydych yn addas ar gyfer dedfryd benodol. Nid yw’n awgrymu mai dyma’r ddedfryd a roddir i chi. Gallai’r llys roi unrhyw ddedfryd a ganiateir o dan y gyfraith [gan gynnwys carchar].

[Lle bo’n drosedd neillffordd.] Gallem dal eich traddodi i Lys y Goron am ddedfryd fwy nag y gallwn ni ei rhoi.

[Delio â mechnïaeth/remand, fel sy’n briodol]

 


[Mechnïaeth ddiamod]
[Mechnïaeth amodol]
[Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau ditiadwy a neillffordd)]
[Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau ddiannod gyda’r opsiwn i garcharu)]