Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau diannod gyda’r opsiwn i garcharu)

Rydym yn eich remandio yn y ddalfa tan …………

Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. credwn na ddowch yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
  2. mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd arall ar fechnïaeth oherwydd honnir bod y trosedd hwn wedi’i gyflawni tra oeddech ar fechnïaeth [a/neu]
  3. cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu:
    1. na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  4. Mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  5. rydych wedi cael prawf positif am ………… [rhowch fanylion cyffur Dosbarth A] ond ni fyddech yn cytuno i gael asesiad cyffuriau a / neu driniaeth [a/neu]
  6. rydym yn fodlon bod hyn er mwyn eich diogelwch eich hun [a/neu]
  7.  rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
  8. rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth ac ni allwn wneud penderfyniad ar fechnïaeth.

[Os yw’r gwrandawiad nesaf drwy gyswllt fideo, nodwch hynny] Ni chyflwynir chi gerbron y llys ar ………… yn hytrach byddwch yn cymryd rhan yn y gwrandawiad drwy gyswllt teledu byw, yr un fath â phe baech yma’n bersonol.