Mechnïaeth ddiamod

Rhoddir mechnïaeth ddiamod i chi ymddangos gerbron y llys hwn ar ………… am ………… am/pm. Os na ddowch yn ôl i’r llys ar y dyddiad a’r amser hwn, byddwch efallai’n cyflawni trosedd. Gallech gael eich arestio, dirwyo neu eich anfon i garchar.

Os troseddwch a chithau ar fechnïaeth, bydd eich dedfryd yn un fwy.

[Lle bo’n berthnasol.] Mae eich achos wedi’i restru am dreial ar yr achlysur nesaf. Os na ddowch yno, bydd y treial yn cychwyn yn eich absenoldeb, oni bai na fyddai er budd cyfiawnder iddo gychwyn.

[Nodwch beth ddylai ddigwydd yn y gwrandawiad nesaf gan wneud unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol i sicrhau y rheolir yr achos yn effeithiol.]