Gorchymyn dedfryd ohiriedig

Rydym yn eich anfon i [garchar] [sefydliad troseddwyr ifanc] am gyfnod o ………… diwrnod/wythnos/ mis. Fodd bynnag bydd y ddedfryd yn cael ei gohirio ar yr amod na collfarnir chi am drosedd arall yn ystod y ………… mis nesaf [lle bo’n berthnasol] a’ch bod yn cydymffurfio â’r gofynion a osodir yn ystod y ………… mis nesaf.

Mae’r ddedfryd yn cynnwys y canlynol:

  • [Rhestrwch bob trosedd.
  • Rhowch y cyfnod o garchar am bob trosedd.
  • Nodwch a yw’n rhedeg yn gydredol neu’n ddilynol.]

[Lle bo’n berthnasol.] Bwriadwn osod y gofyniad / gofynion canlynol:

[Nodwch ba ofynion a osodir.]

[Gallai’r gofynion orffen ar wahanol ddyddiadau. Drosodd, yn nhrefn y wyddor, eglurir pob un o’r gofynion. Dalier sylw: Rhaid cael caniatâd y troseddwr ar gyfer unrhyw ofyniad triniaeth.]

Os torrwch unrhyw ofyniad neu os collfarnir chi am drosedd arall tra byddwch ar eich gorchymyn, gallwch ddisgwyl gorfod treulio’r ddedfryd o garchar hon.

Rhaid i chi roi gwybod i’ch goruchwyliwr os dymunwch newid eich cyfeiriad a chael eu caniatâd i wneud hynny. Os na fydd eich goruchwyliwr yn cytuno y gallwch newid cyfeiriad, bydd angen i chi wneud cais i’r llys. Os byddwch yn symud ty heb ganiatâd eich goruchwyliwr neu’r llys, byddwch yn torri eich gorchymyn a gallwch orfod dod yn ôl i’r llys.

Os na allwch fynychu apwyntiadau oherwydd salwch, bydd angen ichi ddangos tystysgrif feddygol i’ch goruchwyliwr. Os na wnewch hyn, byddwch yn torri rheolau’r gorchymyn hwn.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gallwch ofyn i’r llys adolygu’r gorchymyn.

Rydym yn gwneud y gorchymyn hwn oherwydd bod y trosedd(au) mor ddifrifol fel mai carchar yw’r unig opsiwn addas. Ein rhesymau yw:

[Rhowch eich rhesymau]

[Lle bo’n berthnasol.] Rydym wedi lleihau eich dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe baech heb wneud, byddai wedi bod yn …………

[Lle bo’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchymyn ategol, iawndal a/neu waharddiad]