Gorchymyn cymunedol

  1. Mae’r trosedd(au) o ………… yn ddigon difrifol i ni wneud gorchymyn cymunedol.
    [neu]
  2. Mae’r trosedd(au) o ………… mor ddifrifol fel y gellid bod wedi gwneud dedfryd o garchar. Fodd bynnag, rydym yn gwneud gorchymyn cymunedol.

Bydd hwn yn para am ………… mis ac yn gorffen ar ………… Bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â’r gofyniad / gofynion canlynol: ………… [Nodwch beth yw’r gofynion.]

[Gallai’r gofynion orffen ar wahanol ddyddiadau. Drosodd, yn nhrefn y wyddor, eglurir pob un o’r gofynion. Dalier sylw: Rhaid cael caniatâd y troseddwr ar gyfer unrhyw ofyniad triniaeth.]

Os torrwch unrhyw ofyniad neu os collfarnir chi am drosedd arall tra byddwch ar eich gorchymyn, bydd eich dedfryd yn cael ei chynyddu neu gallwch gael eich ail-ddedfrydu a gallai olygu mynd i’r carchar.

Rhaid i chi roi gwybod i’ch goruchwyliwr os dymunwch newid eich cyfeiriad a chael eu caniatâd i wneud hynny. Os na fydd eich goruchwyliwr yn cytuno y gallwch newid cyfeiriad, bydd angen i chi wneud cais i’r llys. Os byddwch yn symud ty heb ganiatâd eich goruchwyliwr neu’r llys, byddwch yn torri eich gorchymyn a gallwch orfod dod yn ôl i’r llys.

Os na allwch fynychu apwyntiadau oherwydd salwch, bydd angen ichi ddangos tystysgrif feddygol i’ch goruchwyliwr. Os na wnewch hyn, byddwch yn torri rheolau’r gorchymyn hwn.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gallwch ofyn i’r llys adolygu’r gorchymyn.

Rydym yn gwneud y gorchymyn, oherwydd …………

[Lle bo’n berthnasol.] Rydym wedi lleihau eich dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe baech heb wneud, byddai eich dedfryd wedi bod yn …………

[Lle bo’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchymyn ategol, iawndal a/neu waharddiad.]