Gofynion hysbysu (gohirio)

Cafwyd chi’n euog o drosedd rhywiol. O fewn tri diwrnod [i’ch rhyddhau] rhaid i chi fynd i orsaf heddlu a dweud wrthynt:

  • eich enw llawn, gan gynnwys pob enw arall y byddwch efallai’n eu defnyddio
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich cyfrif banc, eich cardiau credyd a debyd, eich pasbort a’ch dogfen adnabod
  • eich prif gyfeiriad ac unrhyw gyfeiriadau eraill y byddwch efallai’n byw ynddynt. Os nad oes gennych brif gyfeiriad, bydd rhaid i chi ddarparu, bob 7 diwrnod, gyfeiriad neu leoliad yn y DU lle gellir dod o hyd i chi’n rheolaidd. Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr heddlu os byddwch yn aros mewn cyfeiriad y mae unrhyw un o dan 18 oed yn byw ynddo.

Os newidiwch eich enw neu os defnyddiwch gyfeiriad am fwy na saith diwrnod mewn blwyddyn, rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu o fewn tri diwrnod iddo ddigwydd.

Os ydych yn bwriadu teithio dramor, bydd rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu am y daith 7 diwrnod ymlaen llaw, waeth beth fo hyd y daith.

Os na rowch y wybodaeth gywir i’r heddlu ar amser, byddwch yn cyflawni trosedd a gallech gael eich anfon i’r carchar.

Byddwch yn cael eich dedfrydu am y trosedd(au) ar ………… Pryd hynny cewch wybod am ba hyd y bydd y gofynion hyn yn para.

[Delio â mechnïaeth/remand, fel sy’n briodol]

Peidiwch â gadael adeilad y llys tan fydd gennych hysbysiad ysgrifenedig o beth ddylech ei wneud.

 


[Mechnïaeth ddiamod]
[Mechnïaeth amodol]
[Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau ditiadwy a neillffordd)]