Rydym yn eich anfon i [garchar] [sefydliad troseddwyr ifanc] am gyfnod o ………… diwrnod/wythnos/mis.
- [Nodwch bob trosedd.
- Nodwch y cyfnod o garchar.
- Nodwch a yw’n gydredol neu’n ddilynol.]
- Mae’r trosedd(au) mor ddifrifol fel bod cyfiawnhad dros roi dedfryd o garchar [neu]
- Rydych wedi methu’n fwriadol a pharhaus i gydymffurfio â’ch gorchymyn cymunedol. [neu]
- Rydych wedi gwrthod cytuno i ni wneud gofyniad ………… ar orchymyn cymunedol.
Ein rhesymau yw:
[Rhowch eich rhesymau]
[Os yw’n berthnasol] Rydym wedi lleihau eich dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na fyddech wedi pledio’n euog, byddai wedi bod yn …………
Lle mae’r diffynnydd wedi bod ar gyrffyw mechnïaeth â thag cymwys
Rydych eisoes wedi treulio […………nodwch yma nifer y dyddiau] ar gyrffyw mechnïaeth â thag ac wedi gorfod aros mewn cyfeiriad penodol am naw awr neu fwy pob dydd. [Os yw’r diffynnydd yn dal ar gyrffyw â thag] Nid ydym yn cyfrif heddiw gan y byddwch yn treulio amser yn y carchar.
[Os yw’n berthnasol] Rydym yn lleihau’r cyfnod hwn […………nodwch yma nifer y dyddiau] oherwydd yr oeddech am gael eich rhyddhau o’r carchar dros dro / eich bod yn destun gorchymyn oedd yn cynnwys ei bod yn ofynnol gwisgo tag. O’r herwydd, mae […………nodwch yma nifer y dyddiau h.y. cyfnod y credyd a gyfrifwyd] yn cyfrif tuag eich dedfryd. Bydd y Gwasanaeth Carchardai yn cyfrifo sut y bydd yn cael effaith ar eich dyddiad rhyddhau. Os bu camgymeriad wrth ddod i’r ffigur hwn, mae modd ei gywiro heb i chi orfod dod yn ôl i’r llys.
[Os yw’n berthnasol] Bydd unrhyw amser a dreulir ar remand yn cael ei gyfrifo gan yr awdurdod priodol.
Fel arfer cewch eich rhyddhau ar drwydded unwaith y byddwch wedi treulio hyd at hanner eich dedfryd yn y carchar. Bydd y Gwasanaeth Carchardai yn rhoi gwybod i chi am eich dyddiad rhyddhau. Bydd eich trwydded yn parhau tan ddiwedd eich dedfryd ac os byddwch yn cael eich dyfarnu’n euog o drosedd bellach, neu’n torri unrhyw un o ofynion eraill eich trwydded, efallai y cewch eich dychwelyd i’r carchar.
Ar ddiwedd cyfnod eich trwydded, byddir yn eich goruchwylio ymhellach yn y gymuned. Gall hyn fod hyd at uchafswm o 12 mis o ddyddiad eich rhyddhau o’r carchar. Os na fyddwch yn cydymffurfio â thelerau’r oruchwyliaeth hon fel y’u nodir gan eich goruchwyliwr, efallai y cewch eich galw’n ôl i’r llys a gallwch dderbyn cosb bellach a all gynnwys eich anfon i’r carchar.
[Os yw’n berthnasol] Fel gwladolyn tramor sydd wedi ei ddedfrydu i garchar am 12 mis, gallwch gael eich allgludo. Y Swyddfa Gartref sy’n gwneud y penderfyniad hwn, nid y llys, a nhw fydd yn cysylltu â chi.
Ydych chi’n deall?
[Os yw’n berthnasol ystyriwch unrhyw orchmynion ategol, iawndal a/neu waharddiad.]