Ymwrthod ag yfed alcohol a monitor (Gofynion gorchymyn cymunedol/ gorchymyn dedfryd ohiriedig)

[Dechrau nawr] [O………… [rhowch y dyddiad]] a tra eich bod yn disgwyl i’ch tag gael ei osod, ni ddylech [yfed alcohol] am gyfnod o ………… hyd nes ………… [rhowch y dyddiad] ac yn ystod y cyfnod hwn rhaid i chi gytuno i gael eich monitro i sicrhau eich bod yn cydymffurfio.

[Pan nad yw’r amodau a osodir yn cynnwys cyrffyw â thag, dylid cynnwys y canlynol] Rhaid ichi aros yn [nodwch y cyfeiriad] o [heddiw] [rhowch ddyddiad diweddarach] rhwng 5pm a hanner nos tan ………… [noder ddyddiad sydd ddeuddydd ar ôl heddiw], fel y gellir gosod eich tag a gosod yr offer monitro. Bydd y gofyniad hwn yn dod i ben unwaith y bydd y tag a’r offer monitro wedi cael eu gosod. Mae’n rhaid ichi gydymffurfio wrth i’r tag a’r offer monitro gael eu gosod.

[neu]

[Os nad oes gan y diffynnydd gyfeiriad sefydlog, dylech gynnwys y canlynol.] Bydd yr offer tagio yn cael ei osod mewn swyddfa Brawf a rhaid i chi fynychu’r swyddfa honno ar ddyddiad ac amser a hysbyswyd i chi gan eich swyddog cyfrifol i osod eich tag. Byddant hefyd yn trefnu amser i lanlwytho’r wybodaeth o’ch tag. Rhaid i chi fod yn bresennol bryd hynny a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir i chi ar gyfer pob proses lanlwytho ymhellach.

Bydd y cwmni monitro yn gosod y tag arnoch. Rhaid ichi wisgo’r tag drwy’r amser yn ystod cyfnod y gofyniad/gofynion.

Ni ddylech dynnu’r tag nac ymyrryd â’r offer mewn unrhyw ffordd, ac mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn tsiarjo’r batri yn unol â’r cyfarwyddyd a roddwyd.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu mynediad i staff y cwmni monitro er mwyn iddynt allu gosod y tag ac egluro sut mae’n gweithio.

Mae’n rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir ichi.