Torri amodau Gorchymyn Dedfryd Ohiriedig (methu cydymffurfio â gofynion) - peidio â gweithredu’r ddedfryd

Rydym yn fodlon eich bod wedi methu cydymffurfio â gofynion eich gorchymyn dedfryd ohiriedig. Fodd bynnag, nid ydym yn gweithredu’r ddedfryd ohiriedig wreiddiol. Rydym yn fodlon y byddai’n anghyfiawn gwneud hynny o dan yr holl amgylchiadau oherwydd [nodwch eich rhesymau]

1. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda dirwy

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydych yn cael dirwy o £.

 [neu]

2. Delir â thorri amodau’r gorchymyn drwy ymestyn y cyfnod gweithredol

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn ymestyn y cyfnod gweithredol o mis/

wythnos/diwrnod [tan ].

[neu]

Pan fo’r gorchymyn dedfryd ohiriedig yn gosod gofyniad cymunedol

3a. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda chyrffyw

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn gosod [gofyniad cyrffyw ychwanegol] [gofyniad cyrffyw] o …………………….. diwrnod. Rhaid i chi aros yn [nodwch y cyfeiriad] rhwng ar

[Pan fo’r gofyniad cyrffyw yn newydd] Bydd y cwmni monitro yn gosod tag arnoch chi yn eich cyfeiriad yn ystod eich oriau cyrffyw. Rhaid i chi wisgo’r tag bob amser yn ystod cyfnod y

gofyniad(au). Rhaid i chi beidio â thynnu neu ymyrryd â’r offer mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi gadw’r batri wedi’i wefru fel y cyfarwyddwyd. Rhaid i chi ganiatáu mynediad i staff y cwmni monitro fel y gallant ffitio’r tag ac egluro sut mae’n gweithio. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir i chi. [a/neu]

3b. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda gwaith di-dâl

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rhaid i chi gyflawni. awr [ychwanegol] o waith

di-dâl yn y gymuned yn unol â chyfarwyddyd eich swyddog cyfrifol. Rhaid cwblhau hyn erbyn

… [nodwch y dyddiad]. 

[a/neu]

3c. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda gofyniad pellach

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn gosod gofyniad pellach o [nodwch pa ofyniad sy’n

cael ei osod]

[a/neu]

3d. Delir â thorri amodau’r gorchymyn drwy ymestyn y cyfnod goruchwylio

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Rydym yn ymestyn cyfnod goruchwylio’r gorchymyn [o ……….mis/wythnos/diwrnod] [tan ]

[a/neu]

3e. Delir â thorri amodau’r gorchymyn drwy ymestyn y cyfnod gweithredol

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

4. Pan fo’r Gorchymyn Dedfryd Ohiriedig wreiddiol wedi dod i ben Mae eich gorchymyn dedfryd ohiriedig wreiddiol wedi dod i ben. Am dorri amodau’r gorchymyn, rydych yn cael dirwy o £……..

[Os yw’n berthnasol] Rydym wedi ystyried y ffaith eich bod wedi cyfaddef eich bod wedi torri amod/ amodau’r gorchymyn.

A ydych chi’n deall? [Os yw’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchmynion ategol]