Torri amodau Gorchymyn Dedfryd Ohiriedig (methu cydymffurfio â gofynion) - gweithredu’r ddedfryd

Rydym yn fodlon eich bod wedi methu cydymffurfio â gofynion eich gorchymyn dedfryd ohiriedig.

1. Rydym yn gweithredu’r ddedfryd ohiriedig wreiddiol yn llawn.

[Os oes mwy nag un trosedd, nodwch y dyddiad ar gyfer pob un, y cyfnod o garchar a p’un a yw’n gyfredol ynteu’n ddilynol]

Mae hyn yn cynnwys …………………….

Mae hyn yn golygu ein bod yn eich anfon i’r carchar am …………… [diwrnod][wythnos][mis]

[neu]

2. Rydym yn gweithredu’r ddedfryd ohiriedig wreiddiol ond yn lleihau’r cyfnod i ……………

[diwrnod][wythnos][mis] i ystyried eich cydymffurfiaeth flaenorol â’r gorchymyn.

[Os oes mwy nag un trosedd, nodwch y dyddiad ar gyfer pob un, y cyfnod o garchar a p’un a yw’n gyfredol ynteu’n ddilynol]

Mae hyn yn cynnwys …………………….

Mae hyn yn golygu ein bod yn eich anfon i’r carchar am …………… [diwrnod][wythnos][mis]

[Os yw’n berthnasol] Rydym wedi ystyried y ffaith eich bod wedi cyfaddef eich bod wedi torri amod(au) y gorchymyn.

Ein rhesymau yw: [Nodwch eich rhesymau]

Os byddwch yn cael eich dedfrydu am drosedd(au) a gyflawnwyd ar ôl 31 Ionawr 2015 – Fel arfer byddwch yn cael eich rhyddhau ar drwydded unwaith y byddwch wedi cyflawni hanner eich dedfryd. Bydd eich trwydded yn parhau tan ddiwedd eich dedfryd ac os cewch eich cael yn euog o drosedd bellach, neu dorri unrhyw un o ofynion eraill eich trwydded, efallai y cewch eich dychwelyd i’r carchar.

Ar ddiwedd cyfnod eich trwydded, byddwch wedyn yn cael eich goruchwylio ymhellach yn y gymuned. Bydd yr oruchwyliaeth yn dod i ben 12 mis ar ôl eich dyddiad rhyddhau o’r carchar. Os nad ydych yn cydymffurfio â thelerau’r oruchwyliaeth hon, efallai y cewch eich dwyn yn ôl i’r llys a chael cosb bellach a all gynnwys eich anfon i’r carchar.

A ydych chi’n deall? [Os yw’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchmynion ategol]