Torri amodau Gorchymyn Dedfryd Ohiriedig (cyflawni trosedd arall yn ystod y cyfnod gweithredol) - peidio â gweithredu’r ddedfryd

Rydych wedi eich cael yn euog o gyflawni trosedd arall tra bod gorchymyn dedfryd ohiriedig mewn grym. Fodd bynnag, nid ydym yn gweithredu’r ddedfryd ohiriedig wreiddiol. Rydym yn fodlon y byddai’n anghyfiawn gwneud hynny o dan yr holl amgylchiadau oherwydd [nodwch eich rhesymau]

Ar gyfer y trosedd(au) newydd rydym yn gosod y canlynol:

  • [Nodwch bob trosedd. Os oes mwy nag un trosedd, nodwch y dyddiad ar gyfer pob un.
  • Nodwch y ddedfryd a osodir, ac os yw’n ddedfryd o garchar, p’un a yw’n gyfredol ynteu’n ddilynol.]

1. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda dirwy

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydych yn cael dirwy o £. 

[neu]

2. Delir â thorri amodau’r gorchymyn drwy ymestyn y cyfnod gweithredol

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn ymestyn y cyfnod gweithredol o mis/wythnos/diwrnod [tan ].

[neu]

Pan fo’r gorchymyn dedfryd ohiriedig yn gosod gofyniad cymunedol:

3a. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda chyrffyw

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn gosod [gofyniad cyrffyw ychwanegol] [gofyniad cyrffyw] o …………………….. diwrnod. Rhaid i chi aros yn [nodwch y cyfeiriad] rhwng ar y dyddiau canlynol …………………….. Bydd y cyrffyw yn dechrau am ….. ar….. ac yn gorffen am….. ar….. a bydd yn para am mis/wythnos/diwrnod.

[Pan fo’r gofyniad cyrffyw yn newydd] Bydd y cwmni monitro yn gosod tag arnoch chi yn eich cyfeiriad yn ystod eich oriau cyrffyw. Rhaid i chi wisgo’r tag bob amser yn ystod cyfnod y gofyniad(au). Rhaid i chi beidio â thynnu neu ymyrryd â’r offer mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi gadw’r batri wedi’i wefru fel y cyfarwyddwyd. Rhaid i chi ganiatáu mynediad i staff y cwmni monitro fel y gallant ffitio’r tag ac egluro sut mae’n gweithio. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir i chi.

[a/neu]

3b. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda gwaith di-dâl

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rhaid i chi gyflawni. awr [ychwanegol] o waith

di-dâl yn y gymuned yn unol â chyfarwyddyd eich swyddog cyfrifol. Rhaid cwblhau hyn erbyn

… [nodwch y dyddiad].

[a/neu]

3c. Delir â thorri amodau’r gorchymyn gyda gofyniad pellach

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn gosod gofyniad pellach o [nodwch pa ofyniad sy’n

cael ei osod].

[a/neu]

3d. Delir â thorri amodau’r gorchymyn drwy ymestyn y cyfnod goruchwylio

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Rydym yn ymestyn cyfnod goruchwylio’r gorchymyn [o ……….mis/wythnos/diwrnod] [tan ]

[a/neu]

3e. Delir â thorri amodau’r gorchymyn drwy ymestyn y cyfnod gweithredol

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Rydym yn ymestyn cyfnod gweithredol y gorchymyn [o ……….mis/wythnos/diwrnod] [tan ].

4. Pan fo’r Gorchymyn Dedfryd Ohiriedig wreiddiol wedi dod i ben Mae eich gorchymyn dedfryd ohiriedig wreiddiol wedi dod i ben. Am dorri amodau’r gorchymyn, rydych yn cael dirwy o £……..

[Os yw’n berthnasol] Rydym wedi ystyried y ffaith eich bod wedi cyfaddef eich bod wedi torri amod/ amodau’r gorchymyn.

A ydych chi’n deall? [Os yw’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchmynion ategol]