Torri Amodau Gorchymyn Cymunedol

Rydym yn fodlon eich bod wedi methu cydymffurfio â gofynion eich gorchymyn cymunedol.

1. Dirymu gorchymyn ac ail-ddedfrydu

Rydym yn dirymu’r gorchymyn ac yn eich ail-ddedfrydu am y drosedd wreiddiol (troseddau gwreiddiol).

  • [Nodwch bob trosedd. Os oes mwy nag un trosedd, nodwch y dyddiad ar gyfer pob un.

Nodwch y ddedfryd a osodir, ac os yw’n gyfnod o garchar, p’un a yw’n gyfredol ynteu’n ddilynol.]

[neu]

2. Y gorchymyn i barhau a delio â’r tor-amod gyda dirwy

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydych yn cael dirwy o £……..

[neu]

3a. Y gorchymyn i barhau a delio â’r tor-amod gyda chyrffyw

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn gosod [gofyniad cyrffyw ychwanegol] [gofyniad cyrffyw] o …………………….. diwrnod. Rhaid i chi aros yn [nodwch y cyfeiriad] rhwng …………………….. ar y dyddiau canlynol ……………………..

Bydd y cyrffyw yn dechrau am ….. ar….. ac yn gorffen am….. ar….. a bydd yn para am …………….. mis/wythnos/diwrnod.

[Pan fo’r gofyniad cyrffyw yn newydd] Bydd y cwmni monitro yn gosod tag arnoch chi yn eich cyfeiriad yn ystod eich oriau cyrffyw. Rhaid i chi wisgo’r tag bob amser yn ystod cyfnod y gofyniad(au). Rhaid i chi beidio â thynnu nac ymyrryd â’r offer mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi gadw’r batri wedi’i wefru fel y cyfarwyddwyd. Rhaid i chi ganiatáu mynediad i staff y cwmni monitro fel y gallant ffitio’r tag ac egluro sut mae’n gweithio. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir i chi. [a/neu]

3b. Y gorchymyn i barhau a delio â’r tor-amod gyda gwaith di-dâl

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rhaid i chi gyflawni …………………….. awr [ychwanegol] o waith di-dâl yn y gymuned yn unol â chyfarwyddyd eich swyddog cyfrifol. Rhaid cwblhau hyn erbyn ………… [nodwch y dyddiad]. [a/neu]

3c. Y gorchymyn i barhau a delio â’r tor-amod gyda gofyniad pellach

Bydd eich gorchymyn gwreiddiol yn parhau.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydym yn gosod gofyniad pellach o ……. [nodwch pa ofyniad sy’n cael ei osod].

4. Pan fo’r Gorchymyn Dedfryd Ohiriedig gwreiddiol wedi dod i ben

Mae eich gorchymyn cymunedol gwreiddiol wedi dod i ben.

Am dorri amodau’r gorchymyn, rydych yn cael dirwy o £……..

[Os yw’n berthnasol] Rydym wedi ystyried y ffaith eich bod wedi cyfaddef eich bod wedi torri amod/
amodau’r gorchymyn.

[Os yw’n berthnasol] Rydym yn ymestyn hyd y gorchymyn [o ……….mis/wythnos/diwrnod] [tan …..] i
ganiatáu amser i’r gofynion gael eu cwblhau.

Ein rhesymau yw: [Nodwch eich rhesymau]

A ydych chi’n deall?

[Os yw’n berthnasol, ystyriwch unrhyw orchmynion atodol]