Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau ditiadwy a neillffordd)

Rydym yn eich remandio yn y ddalfa tan …………

Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. mae seiliau sylweddol dros gredu:
    1. na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  2. honnir eich bod wedi cyflawni’r trosedd hwn a chithau ar fechnïaeth [a/neu]
  3. cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny [a/ neu]
  4. Mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  5. rydych wedi cael prawf positif am ………… [rhowch fanylion cyffur Dosbarth A] ond ni fyddech yn cytuno i gael asesiad cyffuriau a / neu driniaeth [a/neu]
  6. rydym yn fodlon bod hyn er mwyn eich diogelwch eich hun [a/neu]
  7. rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
  8. rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth ac ni allwn wneud penderfyniad ar fechnïaeth. [a/neu]
  9. dyma’r unig ffordd briodol i wneud yn siŵr y paratoir adroddiad.

Credwn hyn oherwydd:

  1. natur a difrifoldeb y trosedd a pha ddedfryd a allai gael ei rhoi i chi amdano [a/neu]
  2. eich cofnod troseddol, cefndir personol a chymeriad [a/neu]
  3. nid ydych wedi cydymffurfio â mechnïaeth flaenorol [a/neu]
  4. oherwydd cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn [a/neu]
  5. oherwydd y gallech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi neu wneud i unigolyn cysylltiedig ofni cael anaf [a/neu]
  6. [unrhyw reswm perthnasol arall – rhowch fanylion.]

[Os yw’r gwrandawiad nesaf drwy gyswllt fideo, nodwch hynny] Ni chyflwynir chi gerbron y llys ar ………… yn hytrach byddwch yn cymryd rhan yn y gwrandawiad drwy gyswllt teledu byw, yr un fath â phe baech yma’n bersonol.