Remandio i lety cadw pobl ifanc

  • Gwrthod mechnïaeth yw hyn. Cyn cael eich remandio i lety cadw pobl ifanc rhaid i’r llys ganfod eithriadau i’r ‘hawl i fechnïaeth’ dan y Ddeddf Mechnïaeth. Mae seiliau gwahanol yn berthnasol, yn dibynnu ar y math o drosedd y mae’r plentyn wedi ei gyhuddo ohoni.
  • Gall llety cadw pobl ifanc fod yn gartref diogel i blant, uned hyfforddi ddiogel neu’n sefydliad i droseddwyr ifanc.
  • Gall y llys wneud gorchymyn ar yr amod fod un o’r setiau o amodau canlynol yn berthnasol:

Set gyntaf o amodau

Awgrymir y dylai’r llys ystyried y darpariaethau hyn gan ddefnyddio’r camau canlynol:

  1. Cam 1: Buddiannau a chyflwr lles – cyn penderfynu a ddylid remandio plentyn mewn llety ar gyfer cadw pobl ifanc rhaid i’r llys ystyried buddiannau a lles y plentyn;
  2. Cam 2: Amod oedran – rhaid i’r plentyn fod rhwng 12 a 17 oed;
  3. Cam 3: Amod dedfrydu – mae’n rhaid iddi ymddangos i’r llys ei bod yn debygol iawn y bydd y plentyn yn cael dedfryd o garchar am y drosedd, neu am un neu fwy o’r troseddau hynny y mae’r plentyn wedi’i gyhuddo neu’n ei gael/chael yn euog ohoni;
  4. Cam 4: Amod trosedd – rhaid i’r drosedd fod o natur dreisgar neu rywiol, neu’n drosedd sy’n destun 14 mlynedd o garchar neu fwy yn achos oedolyn;
  5. Cam 5: Amod angen – rhaid i’r llys fod o’r farn, wedi ystyried yr holl opsiynau o ran remandio’r plentyn, mai dim ond remandio’r plentyn i lety cadw pobl ifanc fyddai’n ddigonol er mwyn:
    1. amddiffyn y cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed personol difrifol (corfforol neu seicolegol) o ganlyniad i droseddau pellach, neu
    2. atal troseddau pellach gan y plentyn y gellir rhoi dedfryd o garchar ac na ellir rheoli’r risgiau a achosir gan y plentyn yn ddiogel yn y gymuned;
  6. Cam 6: Amod cyntaf neu ail o ran cynrychiolaeth gyfreithiol – Yr amod cyntaf yw bod gan y plentyn gynrychiolaeth gyfreithiol. Os nad oes ganddo, mae’n ddigonol bodloni’r ail amod os oedd gan y plentyn gynrychiolaeth bod fod y gynrychiolaeth wedi’i thynnu’n ôl (oherwydd ymddygiad y plentyn neu eu hadnoddau ariannol), neu os gwnaeth y plentyn gais am gynrychiolaeth a gafodd ei wrthod (ar sail adnoddau ariannol), neu os oedd y plentyn (wedi iddo gael ei hysbysu am yr hawl i wneud cais am gynrychiolaeth) wedi gwrthod neu fethu â gwneud cais.

CAM TERFYNOL: Rhesymau – pan fo llys yn remandio plentyn mewn llety ar gyfer cadw pobl ifanc, rhaid i’r llys ddatgan mewn llys agored ac mewn iaith glir i’r plentyn y rhesymau dros wneud hynny, bod y llys wedi ystyried remandio’r plentyn i lety awdurdod lleol ac wedi ystyried buddiannau a lles y plentyn. Ar ben hynny, rhaid i’r llys sicrhau bod ei resymau’n cael eu rhoi yn ysgrifenedig i’r plentyn, i’w gyfreithiwr ac i’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.

Ail set o amodau

Awgrymir y dylai’r llys ystyried y darpariaethau hyn gan ddefnyddio’r camau canlynol:

  1. Cam 1: Buddiannau a chyflwr lles – cyn penderfynu a ddylid remandio plentyn mewn llety ar gyfer cadw pobl ifanc rhaid i’r llys ystyried buddiannau a lles y plentyn;
  2. Cam 2: Amod oedran – rhaid i’r plentyn fod rhwng 12 a 17 oed;
  3. Cam 3: Amod dedfrydu – mae’n rhaid iddi ymddangos i’r llys ei bod yn debygol iawn y bydd y plentyn yn cael dedfryd o garchar am y drosedd, neu am un neu fwy o’r troseddau hynny y mae’r plentyn wedi’i gyhuddo neu’n ei gael/chael yn euog ohoni;
  4. Cam 4: Amod trosedd – rhaid i’r trosedd fod yn un carcharol;
  5. Cam 5: Amodau hanes:
    1. Amod hanes cyntaf – mae gan y plentyn hanes diweddar ac arwyddocaol o ddianc tra ei fod yn destun remand dan glo, ac mae’n ymddangos i’r llys fod yr hanes yn berthnasol ym mhob un o amgylchiadau’r achos; ac fe honnir bod o leiaf un o’r troseddau y mae ef/hi bellach yn eu hwynebu wedi’u cyflawni tra bod y plentyn wedi’i remandio mewn llety awdurdod lleol neu mewn llety ar gyfer cadw pobl ifanc, NEU
    2. Ail amod hanes – bod y drosedd neu’r troseddau a wynebir bellach, ynghyd ag unrhyw droseddau carcharadwy eraill y mae’r plentyn wedi’i gael yn euog ohonynt, yn gyfystyr â hanes diweddar ac arwyddocaol o gyflawni troseddau carcharadwy tra ar fechnïaeth neu’n destun remand dan glo ac mae’n ymddangos i’r llys bod hyn yn berthnasol ym mhob amgylchiadau’r achos;
  6. Cam 6: Amod angenrheidiol – rhaid i’r llys fod o’r farn, ar ôl ystyried yr holl opsiynau ar gyfer remandio’r plentyn, mai dim ond remandio’r plentyn mewn llety ar gyfer cadw pobl ifanc fyddai’n ddigonol i:
    1. ddiogelu’r cyhoedd rhag marwolaeth neu anaf personol difrifol (corfforol neu seicolegol) a achoswyd gan droseddau pellach, neu
    2. atal troseddau pellach gan y plentyn y gellir rhoi dedfryd o garchar ac na ellir rheoli’r risgiau a achosir gan y plentyn yn ddiogel yn y gymuned
  7. Cam 7: Amod cyntaf neu ail amod cynrychiolaeth gyfreithiol – yr amod cyntaf yw bod y plentyn yn cael ei gynrychioli’n gyfreithiol. Os nad yw hyn yn bosibl, gellid bodloni’r ail amod os oedd y plentyn yn cael ei gynrychioli ond cafodd y gynrychiolaeth ei dynnu’n ôl (oherwydd ymddygiad y plentyn neu ei adnoddau ariannol), neu os oedd y plentyn yn gwneud cais am gynrychiolaeth ond fe’i wrthodwyd (ar sail adnoddau ariannol), neu os oedd y plentyn (ar ôl cael gwybod am yr hawl i wneud cais am gynrychiolaeth) yn gwrthod neu’n methu â gwneud cais.