Rydych yn cael eich remandio i lety cadw pobl ifanc tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:
- bod sail gref dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
- bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion unigolyn cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- credwn na fyddwch yn dod yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
- eich bod wedi eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny a bod gennym sail gref dros gredu:
- na fyddech yn dod yn ôl i’r llys [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
- eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
- ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau.
Rydych wedi eich cyhuddo o drosedd [difrifol] [treisgar] [rhywiol].
Mae remandio i lety cadw pobl ifanc yn angenrheidiol [i amddiffyn y cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol gennych] [i’ch atal rhag cyflawni troseddau carcharol pellach] oherwydd …………