Remandio i lety cadw pobl ifanc 2il set o amodau (pobl ifanc 12-17 oed, troseddau carchar diannod)

Rydych yn cael eich remandio i lety cadw pobl ifanc tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].

Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. bod sail gref dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
  2. bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  3. credwn na fyddwch yn dod yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
  4. eich bod wedi cael eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny a bod gennym sail gref dros gredu’r canlynol:
    1. na fyddech yn dod yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  5. rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
  6. eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
  7. ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau.

Rydych wedi eich cyhuddo o drosedd sy’n destun dedfryd o garchar ac rydym yn fodlon ei bod yn debygol iawn y byddwch yn cael dedfryd o’r fath.

Mae gennych hanes diweddar ac arwyddocaol o ddianc tra’ch bod yn destun remand dan glo, ac mae’n ymddangos i’r llys fod yr hanes yn berthnasol yn holl amgylchiadau’r achos; a dywedir i’r drosedd hon gael ei chyflawni tra ar remand o’r fath. [a/neu]

Mae’r drosedd hon, ynghyd ag eraill yr ydych wedi’ch cael yn euog o’u cyflawni, yn dangos hanes diweddar ac arwyddocaol o gyflawni troseddau y gellir rhoi dedfryd o garchar tra ar fechnïaeth neu’n destun remand dan glo ac mae’n ymddangos i’r llys bod hyn yn berthnasol o dan holl amgylchiadau’r achos oherwydd …………

Mae remand i lety ar gyfer cadw pobl ifanc yn angenrheidiol i:

a) ddiogelu’r cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol a achoswyd gan droseddau pellach a gyflawnwyd gennych oherwydd …………

[neu]

b) i’ch atal rhag cyflawni troseddau y gellir rhoi dedfryd o garchar ac na ellir rheoli’r risgiau a achosir gennych yn ddiogel yn y gymuned oherwydd …………

Wrth ddod i’n penderfyniad rydym wedi ystyried remandio’r plentyn i lety awdurdod lleol, eich buddiannau a’ch lles.