Rydym yn eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb / derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:
- mae seiliau sylweddol dros gredu:
- na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- honnir y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd cafodd y trosedd hwn ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
- cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny [a/neu]
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
- rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
- rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ddylid eich rhyddhau neu beidio [a/neu]
- dyma’r unig ffordd briodol i wneud yn siŵr y paratoir adroddiad.
Credwn hyn oherwydd:
- pa mor ddifrifol yw’r trosedd a pha ddedfryd y gallech ei derbyn amdano [a/neu]
- eich cofnod troseddol a’ch cefndir [a/neu]
- cawsoch fechnïaeth o’r blaen ac ni wnaethoch ufuddhau iddi [a/neu]
- oherwydd cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn [a/neu]
- oherwydd y gallech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] feddwl y gallech achosi niwed iddynt [a/neu]
- [unrhyw reswm perthnasol arall – rhowch fanylion.]
Cyhuddir chi o drosedd [difrifol] [treisgar] [rhywiol].
Mae angen eich remandio i lety cadw ieuenctid [i amddiffyn y cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol gennych] [i’ch atal rhag cyflawni troseddau sy’n cario dedfryd o garchar] oherwydd ………..