Rydym yn eich remandio i lety cadw ieuenctid tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb/ derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth oherwydd cafodd y trosedd hwn ei gyflawni tra oeddech ar fechnïaeth [a/neu]
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- credwn na ddowch yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
- cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu:
- na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
- rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
- rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ddylid eich rhyddhau neu beidio.
Cyhuddir chi o drosedd [difrifol] [treisgar] [rhywiol].
Mae angen eich remandio i lety cadw ieuenctid [i amddiffyn y cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol gennych] [i’ch atal rhag cyflawni troseddau pellach sy’n cario dedfryd o garchar] oherwydd …………