Rydym yn eich remandio i lety cadw ieuenctid tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb / derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:
-
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth oherwydd cafodd y trosedd hwn ei gyflawni tra oeddech ar fechnïaeth [a/neu]
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- credwn na ddowch yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
- cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu:
- na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
- rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
- rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ddylid eich rhyddhau neu beidio.
Rydych wedi eich cyhuddo o drosedd sy’n destun dedfryd o garchar ac rydym yn fodlon ei bod yn debygol iawn y byddwch yn cael dedfryd o’r fath.
Mae gennych hanes diweddar ac arwyddocaol o ddianc tra’ch bod yn destun remand dan glo, ac mae’n ymddangos i’r llys fod yr hanes yn berthnasol yn holl amgylchiadau’r achos; a dywedir i’r drosedd hon gael ei chyflawni tra ar remand o’r fath. [ a/neu]
Mae’r drosedd hon, ynghyd ag eraill yr ydych wedi’ch cael yn euog o’u cyflawni, yn dangos hanes diweddar ac arwyddocaol o gyflawni troseddau y gellir rhoi dedfryd o garchar tra ar fechnïaeth neu’n destun remand dan glo ac mae’n ymddangos i’r llys bod hyn yn berthnasol o dan holl amgylchiadau’r achos oherwydd …………
Mae remand i lety ar gyfer cadw pobl ifanc yn angenrheidiol i:
a. ddiogelu’r cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol a achoswyd gan droseddau pellach a gyflawnwyd gennych oherwydd …………
[neu]
b. i’ch atal rhag cyflawni troseddau y gellir rhoi dedfryd o garchar ac na ellir rheoli’r risgiau a achosir gennych yn ddiogel yn y gymuned oherwydd …………
Wrth ddod i’n penderfyniad rydym wedi ystyried remandio’r plentyn i lety awdurdod lleol, eich buddiannau a’ch lles.