Rydych yn cael eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:
- bod sail gref dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
- bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion person cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- credwn na fyddwch yn dod yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
- eich bod wedi eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny a bod gennym sail gref dros gredu:
- na fyddech yn dod yn ôl i’r llys, [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
- eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
- ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau.
Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.
[Lle bo hynny’n berthnasol.] Cewch eich remandio i lety awdurdod lleol dan yr amodau canlynol …………
[Nodwch yn union beth fydd yr amodau, e.e.
- byw yn y man y caiff ei gyfarwyddo i fyw ynddo gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid/awdurdod lleol
- ble na chânt fyw
- cyflwyno’i hun mewn gorsaf heddlu
- dim cyswllt â thystion
- unrhyw amod arall angenrheidiol.]
Os byddwch yn torri unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio ac yn gorfod dod yn ôl i’r llys a gallem benderfynu y dylech gael eich remandio i Lety Cadw Pobl Ifanc.