Remandio i lety awdurdod lleol (troseddau carchar diannod)

Rydych yn cael eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].

Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. bod sail gref dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
  2. bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion person cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  3. credwn na fyddwch yn dod yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
  4. eich bod wedi eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny a bod gennym sail gref dros gredu:
    1. na fyddech yn dod yn ôl i’r llys, [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  5. rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
  6. eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
  7. ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau.

Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.

[Lle bo hynny’n berthnasol.] Cewch eich remandio i lety awdurdod lleol dan yr amodau canlynol …………

[Nodwch yn union beth fydd yr amodau, e.e.

  • byw yn y man y caiff ei gyfarwyddo i fyw ynddo gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid/awdurdod lleol
  • ble na chânt fyw
  • cyflwyno’i hun mewn gorsaf heddlu
  • dim cyswllt â thystion
  • unrhyw amod arall angenrheidiol.]

Os byddwch yn torri unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio ac yn gorfod dod yn ôl i’r llys a gallem benderfynu y dylech gael eich remandio i Lety Cadw Pobl Ifanc.