Remandio i lety awdurdod lleol (rhai dan 18 oed yn unig, troseddau heb opsiwn i garcharu)

Rydym yn eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb / derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].

Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. credwn na ddowch yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
  2. cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu:
    1. na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  3. rydych wedi cael eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………………. [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  4. rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
  5. rydych eisoes yn garcharor yn y carchar.

Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.

[Lle bo’n berthnasol.] Byddwch yn cael eich rhoi mewn llety awdurdod lleol gyda’r amodau canlynol …………

[Nodwch yn yr union dermau beth yw’r amodau, e.e.

  • byw lle cyfarwyddir hwynt i fyw gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid / awdurdod lleol
  • lle na fedrant fyw • adrodd i orsaf heddlu
  • peidio â chael cyswllt â thystion
  • unrhyw amod angenrheidiol arall.]

Os torrwch unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio a’ch dwyn gerbron y llys eto.