Remandio i lety awdurdod lleol (rhai dan 18 oed yn unig, troseddau ditiadwy a neillffordd)

Rydym yn eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb/ derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].

Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. mae seiliau sylweddol dros gredu:
    1. na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  2. honnir y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd cafodd y trosedd hwn ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
  3. cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny [a/ neu]
  4. mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  5. rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
  6. rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
  7. rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ddylid eich rhyddhau neu beidio [a/neu]
  8. dyma’r unig ffordd briodol i wneud yn siŵr y paratoir adroddiad.

Credwn hyn oherwydd:

  1. pa mor ddifrifol yw’r trosedd a pha ddedfryd y gallech ei derbyn amdano [a/neu]
  2. eich cofnod troseddol, cefndir personol a chymeriad [a/neu]
  3. cawsoch fechnïaeth o’r blaen ac ni wnaethoch ufuddhau iddi [a/neu]
  4. oherwydd cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn [a/neu]
  5. oherwydd y gallech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] feddwl y gallech achosi niwed iddynt [a/neu]
  6. [unrhyw reswm perthnasol arall – rhowch fanylion.]

Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.
[Lle bo’n berthnasol.] Byddwch yn cael eich rhoi mewn llety awdurdod lleol gyda’r amodau canlynol …………

[Nodwch yn yr union dermau beth yw’r amodau, e.e.

  • byw lle cyfarwyddir hwynt i fyw gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid / awdurdod lleol
  • lle na fedrant fyw
  • adrodd i orsaf heddlu
  • peidio â chael cyswllt â thystion
  • unrhyw amod angenrheidiol arall.]

Os torrwch unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio a’ch dwyn gerbron y llys eto a gallem benderfynu eich remandio i Lety Cadw Ieuenctid.