Remandio i lety awdurdod lleol (rhai dan 18 oed yn unig, troseddau diannod gyda’r opsiwn i garcharu)

Rydym yn eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb/ derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].

Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth oherwydd cafodd y trosedd hwn ei gyflawni tra oeddech ar fechnïaeth [a/neu]
  2. mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  3. credwn na ddowch yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
  4. cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu:
    1. na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  5. rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
  6. rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
  7. rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ddylid eich rhyddhau neu beidio.

Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.

[Lle bo’n berthnasol.] Byddwch yn cael eich rhoi mewn llety awdurdod lleol gyda’r amodau canlynol …………

[Nodwch yn yr union dermau beth yw’r amodau, e.e.

  • byw lle cyfarwyddir hwynt i fyw gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid / awdurdod lleol
  • adrodd i orsaf heddlu
  • peidio â chael cyswllt â thystion
  • unrhyw amod angenrheidiol arall.]

Os torrwch unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio a’ch dwyn gerbron y llys eto a gallem benderfynu eich remandio i Lety Cadw Ieuenctid.