Rydym yn eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny byddwch yn gyfrifoldeb/ derbyn gofal gan ………… [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth oherwydd cafodd y trosedd hwn ei gyflawni tra oeddech ar fechnïaeth [a/neu]
- mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- credwn na ddowch yn ôl i’r llys oherwydd eich methiant blaenorol i wneud hynny [a/neu]
- cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny ac mae gennym seiliau sylweddol dros gredu:
- na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- rydym yn fodlon y dylid gwrthod er eich lles eich hun [a/neu]
- rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
- rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ddylid eich rhyddhau neu beidio.
Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.
[Lle bo’n berthnasol.] Byddwch yn cael eich rhoi mewn llety awdurdod lleol gyda’r amodau canlynol …………
[Nodwch yn yr union dermau beth yw’r amodau, e.e.
- byw lle cyfarwyddir hwynt i fyw gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid / awdurdod lleol
- adrodd i orsaf heddlu
- peidio â chael cyswllt â thystion
- unrhyw amod angenrheidiol arall.]
Os torrwch unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio a’ch dwyn gerbron y llys eto a gallem benderfynu eich remandio i Lety Cadw Ieuenctid.