Penderfyniad trosedd difrifol (pobl ifanc 10-11 a phobl ifanc 12-14 oed nad ydynt yn droseddwyr mynych) - Traddodi ar gyfer dedfryd

Traddodi ar gyfer dedfryd (arwydd o bledio’n euog neu’n dilyn dedfryd yn y llys ieuenctid)

Rydych wedi [pledio’n euog i][eich cael yn euog o ………… [rhowch y trosedd(au)].

O ystyried pa mor ddifrifol yw’r drosedd(troseddau), rydym wedi penderfynu y dylech gael eich dedfrydu yn Llys y Goron. Er gwaethaf eich oedran, rydym yn ystyried bod y mater mor ddifrifol fel bod dedfryd sylweddol fwy na dwy flynedd dan glo yn bosibilrwydd gwirioneddol [rhowch resymau dros hyn].

Rydych felly yn cael eich traddodi i Lys y Goron yn ………… [nodwch pa Lys y Goron] ar gyfer dedfryd ar [ddyddiad ac amser a bennir gan Lys y Goron] [neu nodwch ddyddiad y gwrandawiad].

Yn y cyfamser rydych ………… [rhowch fanylion y remand].