Ni fwriadwn eich dedfrydu heddiw, ond byddwn yn gwneud hynny ar ………….. Mae hyn fel y gallwn adolygu eich ymddygiad rhwng nawr a phryd hynny.
Arhyn o bryd rydym yn meddwl eich dedfrydu i ………… ond os na fyddwch yn cyflawni unrhyw droseddau pellach dros y cyfnod hwn ac yn cwblhau’r gofynion canlynol, byddwn efallai’n rhoi dedfryd lai i chi
Y gofynion sy’n rhaid eu cyflawni yw…………
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gofynion, neu’n cyflawni trosedd arall yn ystod y cyfnod hwn, gallech orfod dod yn ôl i’r llys yn gynt i’ch dedfrydu am drosedd(au) heddiw ac unrhyw rai eraill.
Bydd swyddog prawf yn ysgrifennu adroddiad cyn i chi gael eich dedfrydu a rhaid i chi gydweithredu â’r swyddog.
Ydych chi’n deall?
Ydych yn cytuno i’r camau hyn?
Ni chewch adael adeilad y llys tan fydd gennych gopi o’r gorchymyn.