Oedi dedfryd

Nid ydym yn mynd i roi dedfryd i chi heddiw, ond byddwn yn gwneud hynny ar ………… Mae hyn er mwyn i ni allu adolygu eich ymddygiad rhwng nawr a phryd hynny.

Ar hyn o bryd, rydym yn meddwl eich dedfrydu i …………  ond os na fyddwch yn cyflawni unrhyw droseddau eraill yn ystod y cyfnod hwn ac os byddwch yn bodloni’r gofynion canlynol, efallai byddwn yn gorfodi dedfryd lai arnoch.

Dyma’r gofynion y mae’n rhaid i chi eu bodloni …………

Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gofynion, neu os byddwch yn cyflawni trosedd arall yn ystod y cyfnod hwn, efallai y cewch eich galw yn ôl i’r llys yn gynt a chael eich dedfrydu am drosedd(au) heddiw ac unrhyw droseddau eraill.

Bydd swyddog o’r Tîm Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn ysgrifennu adroddiad cyn y cewch eich dedfrydu ac maen rhaid i chi gydweithredu â’r swyddog.

Ydych chi’n deall?

Ydych chi’n cytuno?

Ni ddylech adael adeilad y llys hyd nes y byddwch wedi cael copi o’r gorchymyn.