Monitro presenoldeb (Gofynion gorchymyn cymunedol/ gorchymyn dedfryd ohiriedig)

Rhaid ichi fynd i ………… [noder y weithgaredd neu’r apwyntiad] am ………… [noder yr amser] ar ………… [noder y dyddiad(au)] yn………… [noder y lleoliad].

Bydd y cwmni monitro yn gosod y tag arnoch. Rhaid ichi wisgo’r tag drwy’r amser yn ystod cyfnod y gofyniad/gofynion.

Ni ddylech dynnu’r tag nac ymyrryd â’r offer mewn unrhyw ffordd, ac mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn tsiarjo’r batri yn unol â’r cyfarwyddyd a roddwyd.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu mynediad i staff y cwmni monitro er mwyn iddynt allu gosod y tag ac egluro sut mae’n gweithio.

Mae’n rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir ichi.

[Pan nad yw’r amodau a osodir yn cynnwys cyrffyw â thag, dylid cynnwys y canlynol] Rhaid ichi aros yn [nodwch y cyfeiriad] o [heddiw] [rhowch ddyddiad diweddarach] rhwng 5pm a hanner nos tan ………… [noder ddyddiad sydd ddeuddydd ar ôl heddiw], fel y gellir gosod eich tag a gosod yr offer monitro. Bydd y gofyniad hwn yn dod i ben unwaith y bydd y tag a’r offer monitro wedi cael eu gosod. Mae’n rhaid ichi gydymffurfio wrth i’r tag a’r offer monitro gael eu gosod.