Mechnïaeth amodol

Rhoddir mechnïaeth gydag amodau i chi ymddangos gerbron y llys hwn ar ………… am ………… am/pm. Os na ddowch yn ôl i’r llys ar y dyddiad a’r amser hwn, byddwch efallai’n cyflawni trosedd. Gallech gael eich arestio, dirwyo neu eich anfon i garchar. Os troseddwch a chithau ar fechnïaeth, bydd eich dedfryd yn un fwy.

[Lle bo’n berthnasol.] Mae eich achos wedi’i restru am dreial ar yr achlysur nesaf. Os na ddowch yno, bydd y treial yn cychwyn yn eich absenoldeb, oni bai na fyddai er budd cyfiawnder iddo gychwyn.

Rhaid i chi gydymffurfio â’r amodau canlynol: Os na wnewch hynny, gallech gael eich arestio a’ch dwyn o flaen y llys lle ailystyrir eich mechnïaeth.

[Nodwch yn yr union dermau beth yw’r amodau, e.e.

  • preswylfa, e.e. i fyw a chysgu yn …………
  • cyrffwy
  • i adrodd i orsaf heddlu
  • i beidio â chael cyswllt â thystion a enwir (uniongyrchol a / neu anuniongyrchol)
  • apwyntiadau â’r tîm ymyriadau cyffuriau.]

[Amodau cadw allan a monitro presenoldeb]

Mae’r amodau hyn yn angenrheidiol i sicrhau:

  • eich bod yn mynychu’r llys [a/neu]
  • nad ydych yn troseddu tra byddwch ar fechnïaeth [a/neu]
  • nad ydych yn ymyrryd â thystion [a/neu]
  • eich bod yn mynychu eich apwyntiadau.

[Nodwch beth ddylai ddigwydd yn y gwrandawiad nesaf gan wneud unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol i sicrhau y rheolir yr achos yn effeithiol.]

[Lle bo’n berthnasol.] Rydym yn fodlon er y cawsoch brawf positif am gyffuriau Dosbarth A ac er i chi wrthod triniaeth, nad oes unrhyw risg sylweddol y byddwch yn cyflawni troseddau pellach oherwydd …………

[Lle bo’n berthnasol.] Credwn fod yr amodau hyn yn ateb y pryderon y dywedodd yr erlyniad wrthym amdanynt.

[Lle bo’n berthnasol.] Rydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd pe byddech yn cael eich collfarnu am y trosedd hwn nid oes posibilrwydd gwirioneddol y byddech yn cael dedfryd o garchar. Er nad ydym yn eich remandio yn y ddalfa, nid yw’n dweud mai dyma’r ddedfryd y byddech yn ei chael pe byddech yn cael eich collfarnu. Gallai’r llys roi unrhyw ddedfryd a ganiateir o dan y gyfraith gan gynnwys dedfryd o garchar.

[Lle bo’n drosedd neillffordd.] Gallech dal gael eich traddodi i Lys y Goron lle gallai’r barnwr yno roi dedfryd fwy nag y gallwn ni ei rhoi.

Ydych chi’n deall?

 


[Amodau cadw allan a monitro presenoldeb]