Mechnïaeth amodol - monitro cau allan a phresenoldeb

[Noder yr union amodau e.e.

  • cau allan: Rhaid ichi beidio â mynd i ………… Mae’r gofyniad hwn yn weithredol [24 awr y dydd nes daw eich mechnïaeth i ben] [rhwng ….. o’r gloch ar ………… [noder y dyddiad(au)]
  • monitro presenoldeb: Rhaid ichi fynd i ………… [noder y weithgaredd neu’r apwyntiad] am ………… [noder yr amser] ar ………… [noder y dyddiad(au)] yn ………… [noder y lleoliad].]

[Os yn berthnasol.] Bydd yr amod(au) [cau allan][cyrffyw][presenoldeb] yn cael eu monitro’n electronig. Bydd y cwmni monitro yn rhoi tag GPS amdanoch yn eich cyfeiriad. Rhaid ichi wisgo’r tag drwy’r amser yn ystod cyfnod yr amod/amodau mechnïaeth.

Ni ddylech dynnu’r tag nac ymyrryd â’r offer mewn unrhyw ffordd, ac mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn tsiarjo’r batri.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu mynediad i staff y cwmni monitro er mwyn iddynt allu gosod y tag ac egluro sut mae’n gweithio.

Mae’n rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir ichi.

[Pan nad yw’r amodau a osodir yn cynnwys cyrffyw â thag, dylid cynnwys y canlynol.] Rhaid ichi aros yn [noder y cyfeiriad] rhwng 5pm a hanner nos tan ………… [noder ddyddiad sydd ddeuddydd ar ôl heddiw], fel y gellir gosod eich tag a gosod yr offer monitro. Bydd yr amod hwn yn dod i ben unwaith y bydd y tag a’r offer monitro wedi cael eu gosod. Mae’n rhaid ichi gydymffurfio wrth i’r tag a’r offer monitro gael eu gosod.