Mechnïaeth amodol

Caniateir mechnïaeth ag amodau i chi i ymddangos gerbron y Llys hwn ar ………… am ………… am/pm. Os na ddowch chi’n ôl i’r llys ar y dyddiad a’r amser hwnnw, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd. Gallech gael eich are stio, eich dirwyo neu eich anfon i’r ddalfa. Os byddwch yn cyflawni trosedd a chithau ar fechnïaeth, byddwch yn derbyn dedfryd lymach.

[Os yw’n berthnasol.] Mae eich achos wedi’i restru ar gyfer treial y tro nesaf. Os na fyddwch yn bresennol neu’ch bod yn hwyr, efallai y bydd y treial yn mynd rhagddo heboch chi, oni bai na fyddai hynny er budd cyfiawnder.

Rhaid i chi gydymffurfio â’r amodau canlynol. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael eich arestio a’ch galw yn ôl i’r llys lle yr ailystyrir eich mechnïaeth.

[Nodwch yn union beth yw’r amodau e.e.

  • Preswylfan e.e byw a chysgu yn …………
  • cyrffyw
  • cau allan a monitro presenoldeb
  • cyflwyno’i hun mewn gorsaf heddlu
  • dim cyswllt â thystion a enwir (uniongyrchol a/neu anuniongyrchol)
  • apwyntiadau â thîm ymyriadau cyffuriau.]

Mae’r amodau hyn yn angenrheidiol i sicrhau:

  • eich bod yn dod i’r llys [a/neu]
  • nad ydych yn cyflawni troseddau ar fechnïaeth [a/neu]
  • nad ydych yn ymyrryd â thystion [a/neu]
  • eich bod yn mynychu eich apwyntiadau.

[Nodwch yr hyn sy’n gorfod digwydd yn y gwrandawiad nesaf a gwnewch unrhyw gyfarwyddiadau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod yr achos yn cael ei reoli’n effeithiol.]

[Os yw’n berthnasol] Credwn fod yr amodau hyn yn rhoi sylw i’r pryderon y mae’r erlyniad wedi tynnu ein sylw atynt.

Ydych chi’n deall?