Gwrthod gohiriad

Rydym wedi ystyried y cais am ohirio’r achos hwn a’r rhesymau a roddwyd dros wneud hynny. Mae’r llys yn disgwyl gwneud cynnydd ym mhob gwrandawiad. Nid ydym yn fodlon y dylid gohirio’r achos hwn oherwydd …………… [rhowch fanylion].

[Enghreifftiau – amddiffyniad:

  • Roeddech yn gwybod am y gwrandawiad beth amser yn ôl a dylech fod wedi trefnu cynrychiolaeth gyfreithiol erbyn hyn.
  • Fe’ch cyhuddwyd yn y mater hwn ar [nodwch y dyddiad] a dylech fod mewn sefyllfa i gyflwyno ple heddiw.
  • Nid oes gennych hawl i weld [unrhyw dystiolaeth] [tystiolaeth bellach] yn yr achos heb gyflwyno ple. Cyn cyflwyno ple, nid oes gennych hawl i weld achos yr erlyniad yn llawn. Os ydych am gyflwyno ple euog heddiw gyda’r posibilrwydd o gael rhywfaint o gredyd tuag at eich dedfryd, gallwch wneud hynny. Os nad ydych am wneud hynny, yna mae’n rhaid i chi bledio’n ddieuog a bydd y llys yn symud ymlaen i dreial.

Enghreifftiau – erlyniad:

  • Rydych wedi cael [nodwch faint o amser] i baratoi’r papurau traddodi ac nid yw’n briodol i ohirio’r achos ymhellach.
  • Rydych wedi cael [nodwch faint o amser] i adolygu’r ffeil. Rhaid gwneud penderfyniad heddiw.
  • Nid yw’r [tystion] [diffynnydd] wedi mynychu’r treial ac nid ydynt wedi rhoi unrhyw reswm da dros beidio â bod yn bresennol. Nid yw’n briodol i ohirio’r mater ymhellach. Bydd yr achos yn mynd rhagddo heddiw.]

Rydym yn mynd i ddelio â’ch achos heddiw.