Rydych wedi’ch cael yn euog o drosedd yn ymwneud â chŵn o dan [Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd – tresmasu gyda’r bwriad o chwilio am, neu ddilyn, ysgyfarnogod â chŵn, neu rhodio â chyfarpar ar gyfer chwilio am neu ddilyn ysgyfarnogod gyda chŵn][Deddf Potsio Nos – cymryd neu ddinistrio anifeiliaid hela neu gwningod yn ystod y nos, neu fynd ar dir gyda’r bwriad o wneud hynny][Deddf Anifeiliaid Hela – tresmasu yn ystod y dydd i chwilio am anifeiliaid hela].
Rydym yn gwneud gorchymyn yn nodi eich bod wedi eich gwahardd rhag [bod yn berchen ar gŵn][cadw cŵn][bod yn berchen ar gŵn a chadw cŵn] am gyfnod o ………… mis/blwyddyn [Nodwch hyd y gorchymyn].
Mae hyn oherwydd ………… [Nodwch y rhesymau].
[Os yn berthnasol.] Am gyfnod o ………… [Nodwch gyfnod sydd yn hwy na 12 mis] ni allwch wneud cais i ddod â’r gorchymyn hwn i ben.
[Os yn berthnasol.] Bydd y gorchymyn gwahardd hwn yn cael ei atal tan ………… [Nodwch ddyddiad ac amser]. Mae hyn er mwyn inni allu gwneud ttrefniadau amgen mewn perthynas â’r ci/cŵn.
Mae’r llys yn gwneud y cyfarwyddiadau canlynol yn ystod y gwaharddiad ………… [Nodwch fanylion].
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gorchymyn hwn, byddwch yn cyflawni trosedd bellach.
Ydych chi’n deall?