Gwaharddiad - nes pasio prawf

Rydych hefyd wedi’ch gwahardd nes y byddwch yn cymryd [prawf gyrru] [prawf gyrru estynedig]. Mae hyn yn golygu, unwaith y daw cyfnod y gwaharddiad i ben, byddwch yn gallu gwneud cais am drwydded dros dro yn unig. Pan fyddwch yn gyrru dan drwydded dros dro, rhaid i chi gael eich goruchwylio gan yrrwr cymwys a rhaid i chi arddangos platiau L (neu blatiau D yng Nghymru) ar eich cerbyd. Os nad ydych yn gwneud hynny, byddwch yn cyflawni trosedd o yrru dan waharddiad.