Gwaharddiad – interim

Am y trosedd(au) o ………… rydym yn rhoi dedfryd o waharddiad interim. Bydd y cyfnod hwn yn dechrau yn awr ac yn para am gyfnod o chwe mis neu tan y cewch eich dedfrydu, pa bynnag un a fydd yn digwydd gyntaf. Pan gewch eich dedfrydu, cewch wybod am ba hyd yn union y bydd eich gwaharddiad mewn grym. Bydd y gwaharddiad a roddir heddiw yn cyfrif tuag at unrhyw waharddiad terfynol y gellid ei osod.

Ni allwch yrru unrhyw gerbyd modur ar unrhyw ffordd a ddefnyddir gan y cyhoedd o’r funud hon ymlaen. Os byddwch yn gyrru tra dan waharddiad, byddwch yn cyflawni trosedd difrifol a gallech gael eich anfon i’r ddalfa a’ch gwahardd eto.

Ydych chi’n deall?