Gwaharddiad – interim

Am y trosedd(au) o ………… rydym yn rhoi dedfryd o waharddiad interim. Bydd y cyfnod hwn yn dechrau yn awr ac yn para am gyfnod o chwe mis neu tan y cewch eich dedfrydu, pa bynnag un a fydd yn digwydd gyntaf. Pan gewch eich dedfrydu, cewch wybod am ba hyd yn union y bydd eich gwaharddiad mewn grym. Bydd y gwaharddiad a roddir heddiw yn cyfrif tuag at unrhyw waharddiad terfynol y gellid ei osod.

Ni chewch yrru unrhyw gerbyd modur ar ffordd neu mewn lle cyhoeddus o’r munud hwn ymlaen. Os byddwch yn gyrru tra dan waharddiad, byddwch yn cyflawni trosedd difrifol a gallech gael eich anfon i garchar a’ch gwahardd eto.

Ydych chi’n deall?