Gwaharddiad – hyd nes pasio’r prawf

Rydych hefyd wedi eich gwahardd hyd nes y cymrwch [brawf gyrru] [prawf gyrru estynedig]. Mae hyn yn golygu unwaith y daw eich cyfnod gwaharddiad i ben, y gallwch wneud cais am drwydded dros dro’n unig. Pan fyddwch yn gyrru gyda thrwydded dros dro, rhaid i chi gael eich goruchwylio gan yrrwr cymwysedig a dangos platiau L/D ar eich cerbyd. Os na wnewch hyn, byddwch yn cyflawni trosedd o yrru a chithau wedi eich gwahardd.