Gwaharddiad – dros dro

Am y trosedd(au) o ………… rydym yn rhoi dedfryd o waharddiad dros dro. Bydd hyn yn cychwyn nawr ac yn para am gyfnod o chwe mis neu hyd nes y cewch eich dedfrydu, pa un bynnag ddaw gyntaf. Pan gewch eich dedfrydu byddwch yn cael gwybod yn union faint fydd eich cyfnod gwaharddiad. Bydd y gwaharddiad heddiw’n cyfrif tuag at unrhyw gyfnod gwaharddiad terfynol a osodir.

Ni allwch yrru unrhyw gerbyd modur ar ffordd neu mewn lle cyhoeddus o’r funud hon ymlaen. Os byddwch yn gyrru a chithau wedi’ch gwahardd, byddwch yn cyflawni trosedd difrifol ac efallai y cewch garchar a’ch gwahardd eto.

Ydych chi’n deall?

[Delio â mechnïaeth/remand, fel sy’n briodol]

 


Mechnïaeth ddiamod
Mechnïaeth amodol
Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau ditiadwy a neillffordd)
Remandio yn y ddalfa ar ôl collfarnu (troseddau ddiannod gyda’r opsiwn i garcharu)