Gwaharddiad – cyffredinol

[Mae hyn yn cymryd bod manylion trosedd(au) unigol a chyfansymio eisoes wedi’u rhoi.]

Rydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru am ………… diwrnod/wythnos/mis/blynedd. Mae hyn yn golygu na chewch yrru unrhyw gerbyd modur ar ffordd neu mewn lle cyhoeddus o’r munud hwn hyd ddiwedd cyfnod y gwaharddiad. Os byddwch yn gyrru tra dan waharddiad, byddwch yn cyflawni trosedd difrifol a gallech gael eich anfon i’r ddalfa a’ch gwahardd eto.

[Lle bo hynny’n briodol, i unigolion 16 ac 17 oed.] Os yw’r cyfnod gwahardd yn 56 diwrnod neu fwy – Rhaid i chi wneud cais i’r DVLA am drwydded cerdyn-llun newydd os ydych chi’n dymuno gyrru ar ôl i’r gwaharddiad ddod i ben. Ni ddylech yrru nes eich bod wedi cael eich trwydded cerdyn-llun newydd. Nid yw eich trwydded cerdyn-llun yn ddilys bellach, a rhaid i chi ei hanfon at y DVLA.

[Lle bo hynny’n briodol, i unigolion 16 ac 17 oed.] Os yw’r cyfnod gwahardd yn 55 diwrnod neu lai – Caiff y gwaharddiad ei nodi ar eich cofnod gyrru DVLA. Nid oes angen i chi ildio eich trwydded cerdyn-llun, ond ni fydd yn ddilys nes i’r gwaharddiad ddod i ben.

[Os rhoddir dedfryd o garchar yn syth] – Rhoddir estyniad ar y cyfnod gwahardd i ystyried y ddedfryd o garchar a roddir.

Ydych chi’n deall?