Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Rydym yn gwneud gwaharddeb ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr achos hwn am ………… blynedd. [nes gwneir gorchymyn pellach]

Rydym wedi dod i’r casgliad eich bod wedi cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd gwneud y gorchymyn hwn yn helpu i’ch atal rhag cyflawni’r ymddygiad hwn.

Rydym yn credu hyn oherwydd …………

Tra byddwch dan y gorchymyn hwn, rhaid ichi beidio â: ………… [Noder y gweithredoedd gwaharddedig a hyd bob gwaharddiad.]

Os byddwch yn gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn, byddwch yn cyflawni trosedd difrifol a gallech gael eich anfon i’r ddalfa.

[Lle bo hynny’n briodol.] Rydym yn atodi hawl i arestio am y canlynol: ………… [Nodwch yr amodau y mae’r hawl i arestio yn berthnasol iddynt.]

Tra rydych dan y gorchymyn hwn mae’n rhaid i chi: ………… [Nodwch y gofynion, y sawl sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth a hyd bob gofyniad.]

Os na fyddwch yn bodloni’r gofynion hyn efallai y cewch eich anfon i’r ddalfa.

Ydych chi’n deall?

Rhaid i chi aros i gael copi o’r gorchymyn cyn i chi adael adeilad y llys.