Rydym yn gwneud gorchymyn ymddygiad troseddol yn yr achos hwn [am ………… blwyddyn] [hyd nes gorchmynnir fel arall].
Rydym wedi dod i’r casgliad eich bod wedi cyflawni ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid a bydd gwneud gorchymyn yn eich atal rhag cyflawni’r ymddygiad hwn.
Rydym yn credu hyn oherwydd …………
[Os yn berthnasol] Tra bydd y gorchymyn hwn mewn grym, ni ddylech:
[Nodwch y gweithredoedd gwaharddedig a hyd pob gwaharddiad.]
Os byddwch yn gwneud unrhyw un o’r pethau hyn, byddwch yn cyflawni trosedd ac efallai y cewch eich hebrwng i’r ddalfa.
[Os yn berthnasol] Tra bydd y gorchymyn hwn mewn grym, rhaid i chi:
[Nodwch y gofynion, pwy sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiad a’r hyd.]
Os na fyddwch yn glynu at y gofynion hyn, efallai y cewch eich hebrwng i’r ddalfa.
Ydych chi’n deall?
Rhaid i chi aros i gael copi o’r gorchymyn cyn i chi adael adeilad y llys.