Gorchymyn Treuliau (a.69 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022)

Rydym yn gwneud gorchymyn bod yn rhaid i chi dalu £…………  ar gyfer y treuliau yr aed iddynt o ganlyniad i gyflawni’r gorchymyn bod ………… [Nodwch enw neu ddisgrifiad o’r ci/cŵn] yn cael ei gymryd/eu cymryd i feddiant.

Mae hyn oherwydd ………… [Nodwch y rhesymau].

Rydym yn gwneud gorchymyn casglu, sy’n caniatáu i staff y llys sicrhau bod y swm yn cael ei dalu yn unol â’r gorchymyn.  Rhaid i chi dalu ar y diwrnod(au) pan fyddwch yn cael gorchymyn i wneud hynny a rhaid i chi hysbysu’r llys o unrhyw newid yn eich amgylchiadau ariannol neu’ch cyfeiriad. [Nodwch y rhesymau os na wneir gorchymyn casglu.]

Os na fyddwch yn gwneud y taliadau yn unol â’r gorcThymyn, byddwch yn gorfod dod yn ôl i’r llys ac fe allech gael eich anfon i’r carchar.

Ydych chi’n deall?