Rydych wedi cyflawni trosedd(au) rhywiol y tu allan i’r DU. Pe byddech wedi cyflawni’r trosedd yn y DU byddech wedi gorfod hysbysu’r heddlu o bethau penodol.
Felly, rydym yn gwneud gorchymyn hysbysu am ………… blynedd.
O fewn tri diwrnod [i’ch rhyddhau] rhaid i chi hefyd fynd i orsaf heddlu ………… a dweud wrthynt:
- eich enw llawn, gan gynnwys pob enw arall y byddwch efallai’n eu defnyddio
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich cyfrif banc, eich cardiau credyd a debyd, eich pasbort a’ch dogfen adnabod
- eich prif gyfeiriad ac unrhyw gyfeiriadau eraill y byddwch efallai’n byw ynddynt. Os nad oes gennych brif gyfeiriad, bydd rhaid i chi ddarparu, bob 7 diwrnod, gyfeiriad neu leoliad yn y DU lle gellir dod o hyd i chi’n rheolaidd. Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr heddlu os byddwch yn aros mewn cyfeiriad y mae unrhyw un o dan 18 oed yn byw ynddo.
Os newidiwch eich enw neu os defnyddiwch gyfeiriad am fwy na saith diwrnod mewn blwyddyn, rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu o fewn tri diwrnod iddo ddigwydd.
Rhaid i chi gadarnhau eich manylion i’r heddlu bob 12 mis, hyd yn oed os ydynt yr un fath. Rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion hysbysu hyn am ………… blynedd.
Os na rowch y wybodaeth gywir i’r heddlu ar amser, byddwch yn cyflawni trosedd a gallech gael eich anfon i’r carchar.
Peidiwch â gadael adeilad y llys tan fydd gennych hysbysiad ysgrifenedig o beth ddylech ei wneud.