Gorchymyn gwahardd pêl-droed

Rydym yn eich gwahardd rhag mynd i unrhyw safle i’r pwrpas o fynychu unrhyw gêm bêl-droed reoledig yn y DU, am gyfnod o ………… Mae hyn er mwyn helpu i atal trais neu anrhefn sy’n gysylltiedig â gemau pêl-droed.

O fewn 5 diwrnod i [heddiw] [gael eich rhyddhau o’r ddalfa] rhaid i chi adrodd i orsaf heddlu ………… Bydd y swyddog yn rhoi gwybod i chi’n union beth sy’n rhaid i chi ei wneud.

Byddwch yn cael eich cyfarwyddo gan yr Awdurdod Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed i ildio eich pasbort i orsaf heddlu pan fydd gemau pêl-droed penodol yn cael eu chwarae y tu allan i’r DU.

[Lle bo’n berthnasol.] Rhaid i chi gydymffurfio â’r gofyniad / gofynion ychwanegol canlynol …………

[Nodwch yn yr union dermau y gallent gynnwys:

  • mynychu gorsaf heddlu i gael tynnu eu llun
  • unrhyw ofyniad arall sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gorchymyn yn effeithiol.]

Byddwch yn cyflawni trosedd os torrwch unrhyw un o’r gofynion a gallech orfod mynd i’r carchar.

Ar ôl i chi gwblhau dwy ran o dair o’r gorchymyn, gallwch ofyn i’r llys ystyried dod â’r gorchymyn i ben.

Ydych chi’n deall?

Peidiwch â gadael adeilad y llys tan fydd gennych gopi o’r gorchymyn.