Rydym yn eich gwahardd rhag mynd i unrhyw safle i’r pwrpas o fynychu unrhyw gêm bêl-droed reoledig yn y DU, am gyfnod o ………… Mae hyn er mwyn helpu i atal trais neu anrhefn sy’n gysylltiedig â gemau pêl-droed.
O fewn 5 diwrnod i [heddiw] [gael eich rhyddhau o’r ddalfa] rhaid i chi adrodd i orsaf heddlu ………… Bydd y swyddog yn rhoi gwybod i chi’n union beth sy’n rhaid i chi ei wneud.
Byddwch yn cael eich cyfarwyddo gan yr Awdurdod Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed i ildio eich pasbort i orsaf heddlu pan fydd gemau pêl-droed penodol yn cael eu chwarae y tu allan i’r DU.
[Lle bo’n berthnasol.] Rhaid i chi gydymffurfio â’r gofyniad / gofynion ychwanegol canlynol …………
[Nodwch yn yr union dermau y gallent gynnwys:
- mynychu gorsaf heddlu i gael tynnu eu llun
- unrhyw ofyniad arall sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gorchymyn yn effeithiol.]
Byddwch yn cyflawni trosedd os torrwch unrhyw un o’r gofynion a gallech orfod mynd i’r carchar.
Ar ôl i chi gwblhau dwy ran o dair o’r gorchymyn, gallwch ofyn i’r llys ystyried dod â’r gorchymyn i ben.
Ydych chi’n deall?
Peidiwch â gadael adeilad y llys tan fydd gennych gopi o’r gorchymyn.