Rydym yn gwneud gorchymyn difa amodol ar gyfer ………… [rhowch enw / disgrifiad o’r ci neu gŵn].
Rydym yn fodlon nad yw ………… [rhowch enw / disgrifiad o’r ci neu gŵn] yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd.
Mae hyn oherwydd ………….
[Rhowch eich rhesymau ar sail y rhestr ganlynol:
- Y digwyddiad – faint o niwed a achoswyd gan ymddygiad y ci.
- Ymddygiad blaenorol y ci – ai digwyddiad unwaith yn unig oedd hwn neu a gafwyd rhybuddion neu ddigwyddiadau o’r blaen?
- Cymeriad y perchennog – ydy’r perchennog yn unigolyn addas a phriodol i fod yn berchen ar y ci arbennig hwn?]
Rhaid i chi felly gadw ………… [rhowch enw / disgrifiad o’r ci neu gŵn] dan reolaeth briodol.
[Lle bo’n berthnasol.] Yn ogystal, gosodwn yr amodau canlynol:
[Nodwch ba un o’r amodau canlynol sydd i’w cymhwyso:
- Pan fydd / fyddant mewn man cyhoeddus, rhaid rhoi penffrwyn ar y ci neu gŵn.
- Pan fyddwch mewn man cyhoeddus rhaid i unigolyn 16+ oed gadw’r ci neu gŵn yn dynn ar dennyn.
- Ni ddylai’r ci neu gŵn fynd i ………… [nodwch yr ardal lle gwaherddir hwynt].
- Os yn gi neu gŵn gwryw, rhaid ei ysbaddu.]
Os nad ydych yn cydymffurfio â’r gorchymyn hwn, gellir atafaelu a difa’r ci neu gŵn a gallech gael eich gorchymyn i dalu costau eu cadw hyd nes y byddant yn cael eu difa, a thalu costau eu difa.