Rydym yn gwneud gorchymyn difa amodol ar gyfer ………… [rhowch enw / disgrifiad o’r ci neu gŵn].
Rydym yn fodlon nad yw ………… [rhowch enw / disgrifiad o’r ci neu gŵn] yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd.
Mae hyn oherwydd …………
[Rhowch eich rhesymau ar sail y rhestr ganlynol:
- Y digwyddiad – faint o niwed a achoswyd gan ymddygiad y ci.
- Ymddygiad blaenorol y ci – ai digwyddiad unwaith yn unig oedd hwn neu a gafwyd rhybuddion neu ddigwyddiadau o’r blaen?
- Cymeriad y perchennog – ydy’r perchennog yn unigolyn addas a phriodol i fod yn berchen ar y ci arbennig hwn?]
Mae’r ci hwn yn fath sydd wedi’i wahardd a rhaid i chi nawr gael tystysgrif eithrio. Rhaid i chi wneud hyn o fewn dau fis i wneud y gorchymyn hwn. Byddwch yn cael eich hysbysu o’r camau sydd angen i chi eu cymryd i gael tystysgrif; bydd hyn yn cynnwys bod y ci (cŵn) yn cael ei ysbaddu, yn cael microsglodyn a’i yswirio.
Byddwch hefyd yn cael eich hysbysu o unrhyw ofynion ychwanegol ar y dystysgrif.
Pan fyddwch mewn man cyhoeddus rhaid i chi hefyd gadw penffrwyn ar y ci neu gŵn a rhaid i unigolyn 16+ oed ei gadw’n dynn ar dennyn.
Os methwch â chydymffurfio â’r gorchymyn hwn, os methwch â chael tystysgrif eithrio o fewn yr amser, neu os methwch â chydymffurfio â’r gofynion ar y dystysgrif, byddwch yn cyflawni trosedd. Gallai hyn arwain at eich anfon i’r carchar, gellir atafaelu a difa’r ci neu gŵn a gallech gael eich gorchymyn i dalu costau eu cadw hyd nes y byddant yn cael eu difa, a thalu costau eu difa.